Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee |
|
||
|
|
|
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
12 Medi 2012 |
Annwyl Gyfaill,
Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig. I gynorthwyo’r Pwyllgor â’i ymchwiliad, byddai’n gwerthfawrogi eich sylwadau ar y pwnc hwn.
Amgaeaf gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymateb gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad hwnnw.
Croesewir cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg gan y Pwyllgor, a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau cyflwyno tystiolaeth lafar maes o law.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at pwyllgor.menter@cymru.gov.uk
Neu gallwch ysgrifennu at:
Sian Phipps, Clerc
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Gwener 2 Tachwedd 2012. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a fydd yn dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau a hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn.
Datgelu gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
Chloë Davies